Ymchwil Ysbrydol Randalph a'i Chwiliad am Ystyr

Eisteddodd Randalph Ddoeth yn ei gadair, gan grafu ei ben llwyd henaidd, a meddwl am y cwestiwn mawr iawn.
"Beth sydd wir yn bwysig?" gofynnodd i'r ystafell wag mewn llais dwfn, trwm.

Am beth mae'r gyfres yn sôn?

Mae'r storïau’n adrodd hanes cymeriad o'r enw Randalph Ddoeth, sy'n chwilio am atebion i'r cwestiwn mawr iawn. Mae eisiau gwybod, ‘Beth sydd wir yn bwysig?’ Mae'r cwestiwn hwn yn mynd â Randalph Ddoeth ar siwrnai drwy Gymru. Ar ei deithiau, mae'n dod o hyd i rai lleoedd a phobl arbennig i'w helpu gyda'i ymchwil. Mewn sawl ffordd, dim ond dechrau siwrnai yw hyn, wrth i Randalph Ddoeth herio ei ddarllenwyr i ymwneud â’r cwestiwn mawr eu hunain, ac i gychwyn ar eu teithiau newydd eu hunain.

Mae Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr yn gyfres addysg grefyddol gyffrous ar gyfer dysgwyr 8-11 oed, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd gan Bear Lands Publishing yn 2019. Mae'r gyfres wedi ei chreu a'i chynhyrchu gan arbenigwyr addysg grefyddol, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn y rhyngwyneb rhwng ymchwil academaidd ac ymarfer addysgol, wrth ddyfeisio adnoddau addysg grefyddol ar gyfer dysgwyr ac athrawon.

Mae'r gyfres yn cymryd pwysigrwydd mannau (cynefin) o ddifrif, ac mae'n seiliedig ar ymchwil helaeth i sut mae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill, ac am y byd maen nhw'n byw ynddo. Mae'r llyfrau hyn yn cael eu dylanwadu gan y Prosiect ymchwil ar Weddi a Mannau Cysegredig , ac mewn cysylltiad â Phrifysgol Lincoln yr Esgob.

Cefnogi Addysg Grefyddol ar gyfer cwricwlwm sy'n newid

Mae’r gyfres hon wedi’i llunio’n ofalus i gefnogi dulliau addysg grefyddol sy'n ysgogi cysylltiadau naturiol â disgyblaethau eraill yn y dyniaethau yn ogystal â meysydd dysgu a phrofiadau eraill yn y cwricwlwm ehangach. Wedi'u gwreiddio'n gadarn mewn ysbryd ymholiad parchus parhaus, mae’r adnoddau yn agored ac yn hyblyg, sy'n golygu eu bod yn gallu bod yn berthnasol i wahanol gyd-destunau dysgu.

Mae'r adnoddau'n cynnwys:

  • chwe llyfr stori, pob un yn archwilio thema “Beth sydd wir yn bwysig?” trwy ymgysylltu â mannau a phobl yng Nghymru;
  • chwe ffilm wedi’u gosod i gerddoriaeth, un ar gyfer pob llyfr stori, yn dod â dysgwyr i gyswllt agosach â man neilltuol ac yn ysgogi myfyrio pellach yngl?n â’r thema “Beth sydd wir yn bwysig?”;
  • chwe thrac sain cerddoriaeth fel y gall dysgwyr ac athrawon greu eu ffilmiau eu hunain am eu mannau lleol eu hunain;
  • canllaw i athrawon, sy'n cefnogi dylunio a chynllunio hyderus a chreadigol ar gyfer addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Cyrchu'r adnoddau

I gael mynediad at yr adnoddau, ewch i wefan Randalph!
https://randalphthewise.com/

Mae'r adnoddau hefyd ar gael ar y Hwb Llywodraeth Cymru:

Mae'r teitlau canlynol ar gael: