Cerddoriaeth

Cân Hafan Ffydd

Ysgrifennwyd y gân 'Hafan Ffydd' (y fersiynau Cymraeg a Saesneg) yn arbennig ar gyfer mis Dathlu Addysg Grefyddol y Cyngor Addysg Grefyddol, fis Mawrth 2011. Darparodd yr adnodd hwn gân ddathlu i’w rhannu, gan gysylltu pobl ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr wrth iddyn nhw ddathlu Addysg Grefyddol yn eu cyd-destunau lleol a chenedlaethol.

Hafan Ffydd heddiw

Mae i’r gân, fodd bynnag, berthnasedd sy'n mynd ymhell y tu hwnt i fis Dathlu Addysg Grefyddol 2011.

Mae addysg grefyddol yng Nghymru a Lloegr heddiw yn darparu man lle gall pobl ifanc ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol, archwilio credoau, athrawiaethau ac arferion, a mynegi eu hymatebion personol. Mae hyn yn golygu bod addysg grefyddol yn ymwneud â chwestiynau a materion a all fod yn bersonol ac yn sensitif. Mae’r cefndir hwn yn darparu’r cyd-destun ar gyfer thema ganolog y gân, ‘Hafan Ffydd’ neu fan lle gall pobl ifanc ddysgu amdanyn nhw’u hunain ac eraill mewn amgylchedd cefnogol a pharchus. Mae'r gân yn gwerthfawrogi'r angen am fannau cyfarfod o'r fath, a’u gwerth, ac yn croesawu'r potensial a'r heriau perthynol a allai ddeillio o'r mannau hyn.

Rhyddhawyd y gân gan Stiwdio Sain, gyda Dafydd Dafis, Eleri Fôn a chôr Ysgol Tryfan, ac mae ar gael i'w phrynu fel iTunes download.

Adnoddau

Gwybodaeth hawlfraint: Mae caniatâd i ysgolion, cymunedau ffydd a grwpiau anfasnachol eraill ddefnyddio'r trac cyfeiliant cerddorol y gellir ei lwytho i lawr, ac i wneud copïau o'r sgôr a'r geiriau ar gyfer eu perfformiadau o'r gân.

Place of Trust backing track: